Skip to main content
This information is being maintained for archive/historical purposes only.
It will not be updated.

Bwrdd yr Iaith Gymraeg 



Iaith

Y Gymraeg

Disgrifiad byr o’r sefydliad

Board's Logo

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gorff statudol a ariennir gan arian cyhoeddus. Fe’i sefydlwyd yn Rhagfyr 1993, o dan delerau Deddf yr Iaith Gymraeg. Ei brif swyddogaeth yw hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r iaith Gymraeg.

Penodwyd yr aelodau cyfredol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2003, ac mae ganddo staff o dros hanner cant. O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, daeth y Bwrdd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl bod yn atebol i a chael ei ariannu gan y Swyddfa Gymreig yn y gorffennol.

Yn syml, prif nod y Bwrdd yw ei gwneud hi’n haws i bawb ddefnyddio Cymraeg ymhob agwedd ar fywyd, i fagu hyder pobl yn eu gallu i ddefnyddio’r iaith, i annog mwy o bobl i siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg mewn sefyllfaoedd newydd, ac i drosglwyddo’r iaith i’w plant.

Rydym hefyd yn anelu at weithio mewn partneriaeth gyda chyrff sector cyhoeddus, busnesau preifat a mudiadau gwirfoddol, yn cynnig cyngor ac adnoddau i helpu darparwyr gwasanaethau i roi dewis iaith i’w cwsmeriaid yn naturiol.

Mae’r Bwrdd yn cael ei ariannu drwy grant gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn 2003/04, derbyniodd y Bwrdd grant  £12 miliwn.

Y tiriogaeth ble siaredir yr iaith

Mae’r Gymraeg yn cael ei siarad ar y cyfan o fewn ffiniau Cymru.

Ymsefydlodd mewnfudwyr o Gymru mewn dwy gymuned ym Mhatagonia, ardal yn yr Ariannin, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn y Gaiman a Threlew yn nwyrain y wlad ac Esquel a Threvelin yn y gorllewin. Mae tua 20,000 o bobl yn yr ardaloedd hyn yn ddisgynyddion o’r mewnfudwyr Cymreig, ac mae oddeutu 5,000 yn siarad Cymraeg.

Data Sosio-iethyddol ar gyfer yr iaith

Intergenerational Language Transmission (1991 Census)Mae dadansoddiad trylwyr o ganlyniadau Cyfrifiad diweddaraf y DU o safbwynt yr iaith Gymraeg i’w ganfod ar wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg: Cyfrifiad 2001.

Statws cyfreithiol yr iaith

Fe sefydlodd Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y llysoedd, a hefyd sicrhawyd cyfle i'w defnyddio mewn gweinyddiaeth gyhoeddus.

Ond y Ddeddf fwyaf arwyddocaol hyd yn hyn o safbwynt ymdrin â'r iaith yw Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Mae'r Ddeddf hon, sy'n rhoi'r Gymraeg a'r Saesneg ar sail cyfartal mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, yn garreg filltir yn hanes yr iaith yn y cyfnod modern.

Mewn termau syml mae'r Ddeddf yn nodi tri pheth:

  • mae'n gosod dyletswydd ar y sector cyhoeddus i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal, wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru
  • mae'n rhoi hawl llwyr i siaradwyr Cymraeg i defnyddio'r iaith yn y llys
  • mae'n sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg i arolygu gwireddiad yr addewidion hyn ac i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg

Mae'n bwysig nodi fod grym Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn deillio o'r Ddeddf Seneddol hon. Mae ganddo swyddogaethau sydd wedi eu diffinio'n gyfreithiol a'i brif ddyletswydd yw gweithredu Deddf yr Iaith Gymreig 1993.

Wrth gyflawni ei rôl statudol, mae'r Bwrdd bob amser yn gweithio yng nghyd-destun yr hyn sydd yn briodol o dan yr amgylchiadau ac yn resymol ymarferol.

Yr heriau cyffredin sy’n wynebu’r iaith

Yn ystod haf 2005 cyhoeddodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg dogfen Dyfodol y Gymraeg – Cynllun Strategol. Mae’r ddogfen yma yn rhestri 11 maes gwaith y mae’r Bwrdd yn eu hystyried i fod yn flaenoriaethau o ran ei waith a’i weledigaeth. Mae’r rhestr flaenoriaeth yn cynnwys:

  • trosglwyddo iaith yn y teulu
  • plant oed 0-7
  • defnydd y Gymraeg gan bobl ifanc
  • hyrwyddo a hwyluso defnydd y Gymraeg yn y gymuned
  • defnyddio’r Gymraeg yn y sector breifat
  • cynlluniau iaith Gymraeg a datblygu a darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg
  • normaleiddio dwyieithrwydd
  • hyrwyddo hwaliau ieithyddol fel rhan o’r maes cyfleoedd cyfartal
  • technoleg gwybodaeth a chynllunio corpws
  • ymchwil a data

Mae’r ddogfen yn rhestri amcanion y Bwrdd a thargedau cysylltiol yn ogystal â’r prif bwyntiau gweithredu.

Mae copi o’r ddogfen ar wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg: Dyfodol y Gymraeg - Cynllun Strategol.